Annwyl bawb

Cyfarfu'r Bwrdd Taliadau ar 24 Mawrth. Mae'r canlynol yn grynodeb o drafodaeth a phenderfyniadau'r Bwrdd yn dilyn ein hymgynghoriadau diweddaraf.

Hoffwn roi diolch hefyd am yr ymatebion i'r ymgynghoriadau ynghylch Penderfyniad diwygiedig y Bwrdd Taliadau ar gyfer 2016-17. Mae ystyried barn yr Aelodau a'u staff cymorth yn cyfoethogi ein trafodaethau yn fawr.

Cyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2016-17

Cytunodd y Bwrdd i godi cyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad 1.1% ar gyfer 2016-17, i'w weithredu ar 1 Ebrill.

Nododd y Bwrdd yr ymatebion yn ymwneud â sut y gallai natur newidiol gwleidyddiaeth ddatganoledig a'r gofynion ychwanegol a roddir ar Aelodau Cynulliad effeithio ar staff cymorth Aelodau'r Cynulliad. Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n cyfeirio at y mater hwn yn llywio trafodaethau'r Bwrdd ynghylch ei raglen waith yn y dyfodol.

Lwfansau Costau Swyddfa 2016-17

Cytunodd y Bwrdd i gynyddu'r lwfans costau swyddfa 1% ar gyfer 2016-17. Adolygir y mater eto ar gyfer 2017-18 a bydd gan Aelodau gyfle i gyfrannu at broses y penderfyniad hwn.

Gall Aelodau wneud cais am Dreuliau Eithriadol os ydynt yn credu bod y lwfans yn annigonol ar gyfer eu hamgylchiadau penodol.

Gwariant ar Lety Preswyl 2016-17

Penderfynodd y Bwrdd y byddai'n cadw uchafswm y lwfans llety preswyl i Aelodau o'r ardal allanol ar y gyfradd bresennol o £735 y mis ar gyfer taliadau rhent.

Cytunodd y Bwrdd i barhau â chyfradd y lwfans atodol y lwfans llety preswyl ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol ar eiddo wedi'i forgeisio, sef 10% o'r lwfans blynyddol ar gyfer yr ardal allanol ar hyn o bryd.

Hefyd, cadarnhaodd y Bwrdd y swm a bennwyd i'r lwfans cyfrifoldebau gofalu (yn amodol ar gymeradwyo achos busnes), sef hyd at £1,440 y flwyddyn i dalu am gost uwch llety addas.

Dylai Aelodau fod yn ymwybodol y bydd pob un o'r tair elfen uchod yn cael ei hadolygu ar gyfer 2017-18 ac os bydd unrhyw amgylchiadau eithriadol yn codi yn y cyfamser, gall Aelodau wneud cais hefyd am Dreuliau Eithriadol drwy Gymorth Busnes i'r Aelodau.

Y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol

Cytunodd y Bwrdd y dylai cyfanswm y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol o £900,000 godi 1.1%, yn unol â'r cynnydd arfaethedig yn y dyfarniad cyflog ar gyfer staff cymorth Aelodau'r Cynulliad.

Penderfyniad diwygiedig a chyfunol ar gyfer 2016-17

Bydd y Bwrdd yn sicrhau bod copi caled a fersiwn electronig o'r Penderfyniad diwygiedig ar gael i bob Aelod ym mis Mai 2016.

Trefniadau ariannu ar gyfer cyflogau staff grŵp plaid y dilëir eu swyddi yn dilyn yr etholiad.

Cytunodd y Bwrdd y dylai cyflogau staff grŵp plaid y dilëir eu swyddi yn dilyn yr etholiad gael eu hariannu'n ganolog.

Cadarnhau cyfraddau cyfraniadau i Gynllun Pensiwn yr Aelodau

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd y Cynllun Pensiwn, o'r Pumed Cynulliad ymlaen, yn seiliedig ar Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi'u Hailbrisio (CARE) yn hytrach na Chyflog Terfynol. Yng ngoleuni hyn, mae Actiwari'r Cynllun wedi adolygu cyfradd y cyfraniadau a delir gan Aelodau a'r Comisiwn i'r Cynllun.  Mae'r Actiwari wedi cadarnhau y dylai cyfanswm y cyfraniad sy'n daladwy i'r Cynllun fod yn 26% o gyflogau Aelodau, yn weithredol o 6 Mai. Cyfraniad y Comisiwn i'r Cynllun fydd 15.6%. Bydd Aelodau a oedd 55 oed neu'n hŷn ar 1 Ebrill 2012 yn parhau i dalu cyfraniadau ar yr un lefel ag a delir ganddynt yn awr. Bydd pob Aelod arall yn talu cyfraniad i'r Cynllun ar gyfradd o 10.5% o'u cyflog.

Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad: Darpariaeth ar gyfer Cynghorwr Ariannol Annibynnol

Mae Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad yn gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig sy'n cael ei redeg gan Aviva. Mae Cynghorwr Ariannol Annibynnol ar gyfer y Cynllun; y Comisiwn sy'n talu am ei wasanaeth.

 

Mewn arolwg diweddar, gofynnodd y Tîm Pensiynau i staff cymorth Aelodau'r Cynulliad roi adborth ar y ffordd y cyfathrebir am y Cynllun ar hyn o bryd, gan gynnwys a gysylltwyd â'r cynghorwr ariannol annibynnol a pha mor ddefnyddiol oedd hynny.  

Yn yr adborth, cadarnhawyd bod staff cymorth yn gwerthfawrogi cael siarad â rhywun i'w helpu i ddeall eu pensiwn, a'u bod am gyfathrebu clir a chymorth i ddeall faint y dylent ystyried ei gynilo ar gyfer eu hymddeoliad. Ystyriodd y Bwrdd nifer o ffyrdd o fynd ati, gan gynnwys rôl y cynghorwr ariannol annibynnol a'r gost o ddarparu'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd i beidio â phenodi cynghorwr ariannol annibynnol ar ôl mis Ebrill 2016. Yn lle hynny, y Tîm Pensiynau fydd prif bwynt cyswllt ar gyfer staff cymorth sydd ag ymholiadau am eu pensiwn.

 

Bydd Tîm Pensiynau'r Cynulliad yn ysgrifennu at bob aelod o'r cynllun yn esbonio'r newid hwn yn fwy manwl ac i gadarnhau'r trefniadau newydd a fydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod holl staff cymorth Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys staff yn y rhanbarthau y tu allan i Gaerdydd, yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i ddeall eu pensiwn.

 

Gofynnwyd i staff cymorth Aelodau'r Cynulliad gysylltu â'r Tîm Pensiynau os oes ganddynt unrhyw bryderon am y newidiadau.

 

Diolch

Hoffai'r Bwrdd ddiolch i'r Aelodau na fydd yn dychwelyd am eu cyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru a dymuno yn dda iddynt yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu o'r newydd â'r rhai sy'n cael eu hethol i gynrychioli pobl Cymru ar ôl yr etholiad.

Blaenoriaeth allweddol i'r Bwrdd fydd parhau i ddatblygu cysylltiadau cryf â'r Aelodau, a hynny drwy amryw ddulliau. Elfen bwysig o'r gwaith hwn yw sefydlu grŵp cynrychioliadol newydd o Aelodau'r Cynulliad—y nod yw gwneud hyn mor fuan â phosibl yn y Pumed Cynulliad.

 

 

Cofion cynnes

 

Y Fonesig Dawn Primarolo

Cadeirydd

Y Bwrdd Taliadau